Beth yw Hyb Therapi Gofal Cymhleth
Mae'r model hwn yn galluogi pobl i gael therapi mewn man arbenigol sydd wedi'i leoli nid yn yr ysbyty, ond yn y gymuned, neu gartref os yw'n fwy priodol. Mae’r hwb yn darparu rhyngweithio cymdeithasol yn ogystal â thriniaeth gydag offer arbenigol o bob rhan o ranbarth y Bwrdd Iechyd wedi’u cydleoli i ddarparu amgylchedd therapi sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i ddylunio gan yr unigolyn.
Mae’r ganolfan yn diwallu anghenion therapi hynod arbenigol unigolion sy’n gymwys i gael cyllid gofal iechyd parhaus, o dan y fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal iechyd parhaus yng Nghymru. Mae hefyd yn galluogi clinigwyr gwahanol i ddod at ei gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd, gyda ac am ei gilydd wrth ddarparu gofal o ansawdd uchel.