Beth yw Gwasanaeth Awdioleg Gofal Sylfaenol
Mae'r gwasanaeth yn galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau gofal clust yn uniongyrchol trwy dderbynfa eu meddyg teulu. Pan fyddant yn dod i mewn i'r clinig, caiff eu clyw ei asesu, ac mae ganddynt set lawn o brofion diagnostig, triniaeth a rheolaeth wedi'u cynllunio gyda thriniaeth a rheolaeth briodol wedi'u trefnu. Trefnir unrhyw brofion diagnostig pellach, megis sganiau MRI hefyd. Mae hyn yn lleihau'r galw ar feddygon teulu a nyrsys meddygon teulu yn ogystal â darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i gleifion, brysbennu ar gyfer gwasanaethau gofal eilaidd fel ENT a llwybr claf symlach.