Beth yw Gwasanaeth Cyhyrysgerbydol Gofal Sylfaenol
Mae problemau cyhyrysgerbydol (MSK) yn cyfrif am hyd at 30% o apwyntiadau meddygon teulu. Mae niferoedd cynyddol o bobl bellach yn cael y cyfle i weld ymarferydd MSK fel eu pwynt cyswllt cyntaf, a gall yr ymarferwyr hyn ddod o ystod o ddisgyblaethau Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) gan gynnwys ffisiotherapi.
Drwy ddarparu mynediad uniongyrchol at ffisiotherapi, gan gynnwys integreiddio setiau sgiliau ffisiotherapi i dîm y practis cyffredinol, gall pobl â symptomau MSK eu gweld yn lle’r meddyg teulu i asesu, gwneud diagnosis, cynghori a darparu ymarferion a, phan fo angen, cynnal ymchwiliadau pellach a chyfeirio ymlaen. . Mae llawer o ffisiotherapyddion ymarfer uwch yn gymwys i ragnodi'n annibynnol, archebu ymchwiliadau, cynnal therapi chwistrellu a chynllunio rheolaeth achosion cymhleth. Sicrhau bod pobl yn cael y set sgiliau cywir mewn modd amserol a bod gofal yn cael ei gyrchu yn nes at eu cartrefi.