Beth yw Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan
Mae'r model hwn yn grymuso gweithwyr cymorth gofal iechyd trwy addysg a hyfforddiant i ddarparu ymyrraeth wyneb yn wyneb i gefnogi pobl sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2 i leihau eu risg. Mae cyfranogwyr yn cael eu hadnabod o systemau clinigol meddygon teulu, yn cael cynnig apwyntiad a dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i drafod newidiadau i'w ffordd o fyw. Mae gostyngiad sylweddol mewn cynnydd wedi arwain at fanteision i'r person, yr aelod o staff a'r system ehangach.