Beth yw Tîm Adnoddau Cymunedol Amlbroffesiynol
Mae'r Tîm Adnoddau Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu gwasanaeth integredig drwy un pwynt mynediad. Mae asesu yn dilyn hunan-atgyfeirio neu atgyfeiriad proffesiynol yn galluogi pobl i gael mynediad at aelodau priodol o'r tîm amlbroffesiynol, gan gynnwys gofal cymdeithasol i reoli anghenion iechyd a gofal cymhleth. Mae ymatebion acíwt wedi lleihau cyfraddau derbyn i'r ysbyty, tra bod gweddill y gwasanaeth yn cefnogi pobl i aros yn annibynnol, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.