Beth yw Profion Pwynt Gofal yn y Gymuned
Drwy gydweithredu rhwng gwyddonwyr gofal iechyd, meddygfeydd, arbenigwyr digidol ac addysgwyr, mae tîm profi pwynt gofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi trosglwyddo profion y gymhareb normaleiddio ryngwladol (INR) yn llwyddiannus i’r gymuned. Mae’r tîm wedi mabwysiadu dull gwelliant parhaus i sicrhau bod y prosesau profi yn sicrhau gofal o ansawdd uchel. Mae timau digidol wedi galluogi dull system gyfan i alluogi canlyniadau i gael eu gweld ar draws gwasanaethau. Mae hyfforddiant wedi bod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod profion yn ddibynadwy a bod y gefnogaeth gywir ar gael i bob clinigwr sy’n defnyddio’r system.