Beth yw Cefnogi pobl sy’n profi digartrefedd – Dull digidol aml-sector
Gan weithio ar y cyd, mae tîm 360 CNPT Abertawe wedi datblygu gwasanaeth integredig i gefnogi pobl sy’n profi digartrefedd. Mae sefydliadau iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector wedi creu platfform digidol ar gyfer rhannu gwybodaeth i alluogi cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn y gymuned. Mae rhoi anghenion yr unigolyn yn gyntaf a datblygu perthnasoedd wedi cael effaith gadarnhaol nid yn unig ar yr unigolyn ond ar y timau a’r system ehangach.