Beth yw Cydweithio Amlasiantaeth mewn Gofal Sylfaenol
Mae'r model hwn yn galluogi gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i gydweithio'n rhagweithiol i ddiwallu anghenion cymhleth unigolion sydd wedi cofrestru mewn meddygfa benodol. Mae'r cydlynydd gofal clinigol yn gweithio yn y feddygfa. Mae modd trafod unrhyw glaf a nodwyd gan unrhyw aelod o'r tîm, naill ai'n rhagweithiol os oes risg wedi'i nodi, neu'n dilyn digwyddiad fel mynychu ysbyty heb drefniant ymlaen llaw. Drwy ddeall anghenion eu poblogaeth leol a mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae'r tîm wedi galluogi'r gwasanaethau i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolion dan sylw a sicrhau bod y gwahanol asiantaethau'n gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd gydweithredol a darbodus i ddiwallu'r anghenion hynny.