Beth yw Clinig Clwyfau Coes Cymhleth (Yn y gymuned)
Gan ddod ag Uwch-ymarferwyr Gofal podiatreg a nyrsys arbenigol fasgwlaidd at ei gilydd, mae'r tîm wedi datblygu gwasanaeth yn y gymuned sy'n gallu darparu mynediad uniongyrchol at wasanaeth asesu a rheoli clwyfau i bobl sydd â chlwyfau coes cymhleth. Maen nhw’n gallu cefnogi pobl i ddychwelyd adref sy’n golygu eu bod yn aros yn yr ysbyty am lai o amser ac maen nhw’n trefnu asesiadau arbenigol pan fo angen. Mae'r tîm yn cefnogi'r gweithlu ehangach trwy ddarparu addysg, hyfforddiant a chyngor i dimau cymunedol a meddygaeth deulu.