Beth yw Ymyrraeth Gymunedol Gynnar ar gyfer Colli Cof
Nod y gwasanaeth adsefydlu hwn yw newid y profiad o fyw gyda cholled cof yn gynharach yn nhaith cleifion. Drwy ddefnyddio dull hyfforddi, mae therapyddion galwedigaethol yn cefnogi unigolion i ddysgu strategaethau hanfodol sy’n helpu i gynnal eu hannibyniaeth a’u cefnogi i barhau i fod yn weithgar yn eu cymunedau. Mae’r gwasanaeth hwn yn cyd-redeg â’r clinig cof ac mae’n galluogi cynnig diagnosis a chymorth cynharach i’r rhai sy’n cael eu heffeithio a’u teuluoedd.