Beth yw Gwasanaeth therapi iaith a lleferydd cymunedol integredig
Mae cyflwyno gwasanaethau therapi iaith a lleferydd cymunedol ar gyfer pobl fregus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cynorthwyo pobl i dderbyn gofal yn nes at adref. Mae deall yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn wedi bod yn rhan allweddol o wneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r gwasanaeth hwn wedi cael ei integreiddio’n raddol gyda thimau cymunedol amlddisgyblaethol ehangach i sicrhau bod pobl yn gallu cyrchu’r gwasanaeth cywir ar yr amser cywir yn y lle cywir.