Beth yw Mynediad Uniongyrchol - Gwasanaeth IBS dan arweiniad dietegau (syndrom coluddyn llidus)
Mae gwasanaethau arloesol wedi’u harwain gan ddeieteg ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Bae Abertawe wedi dod ynghyd ar gyfer y prosiect cydweithredol hwn. Mae deietegwyr sy’n meddu ar sgiliau ehangach neu uwch wrth reoli Syndrom Coluddyn Llidus (IBS) ac anhwylderau eraill yn ymwneud â gweithrediad y coluddyn wedi datblygu gwasanaeth mynediad uniongyrchol lle mae’n bosib asesu a rheoli pobl. Gyda chefnogaeth y tîm gastroenteroleg ehangach, mae’r timau wedi gostwng rhestrau aros, a chefnogi unigolion i gael eu gweld yn gyflymach ac i reoli eu symptomau, gan gael effaith sylweddol ar eu bywydau.