Beth yw Ymarferydd Iechyd Meddwl
Treulir cryn dipyn o amser o fewn gofal sylfaenol gyda phobl sydd ag anghenion iechyd meddwl a lles. Gall yr amser sydd ei angen i fynd i’r afael â’r anghenion hyn fod yn sylweddol, ac yn aml mae’n fwy priodol i’r person weld gweithiwr proffesiynol medrus sydd wedi’i hyfforddi mewn materion iechyd meddwl nag aelodau eraill o’r tîm.
Therapyddion Galwedigaethol yw'r unig Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP) sydd wedi cael hyfforddiant deuol ar lefel gradd fel gweithwyr proffesiynol gofal iechyd meddwl a chorfforol. Mae deall effaith cyflyrau datblygiadol, corfforol a meddyliol ar weithrediad dyddiol a galluogi cyfranogiad mewn gweithgareddau yn gyfraniadau unigryw a phwysig o Therapi Galwedigaethol.
Mae eu hymarfer yn rhychwantu pob grŵp oedran, ac mae ganddynt arbenigedd mewn atal, ymyrraeth gynnar a hunanreoli. Mae hyn yn golygu bod Therapyddion Galwedigaethol yn gallu gweithredu fel clinigwr iechyd meddwl cymeradwy, gan ymestyn eu rôl broffesiynol graidd a chymryd rhan mewn lefel uwch o ymarfer o fewn cyd-destun rôl ymarferwr iechyd meddwl.
Mae Therapyddion Galwedigaethol mewn Gofal Sylfaenol yn rhoi’r cyfle i bobl gael mynediad at y cymorth cywir yn gynt, ac yn lleihau effaith problemau iechyd meddwl drwy ganolbwyntio ymyriadau ar y canlyniadau sy’n wirioneddol bwysig iddynt.