Cyflwyno Astudiaeth Achos

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

 

Beth yw e?

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn cydweithio gyda’r Rhaglen Strategol Gofal Sylfaenol (RhSGS), wedi cydweithio i greu’r wefan hon fel  adnodd i hyrwyddo arferion da a ffyrdd arloesol o weithio mewn gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol yng Nghymru.

Mae pob astudiaeth achos

  • yn defnyddio fideos i arddangos setiau sgiliau a ffyrdd anhraddodiadol o weithio, gan ganolbwyntio ar 'brofiad byw' y rhai sy'n cymryd rhan.
  • Yn dangos enghreifftiau o waith aml-broffesiynol integredig ac effeithlonrwydd a gwelliannau i ddarparu gwasanaethau, wedi’u cyflawni drwy nodi ac ymateb i anghenion y boblogaeth leol.
  • Yn rhoi gwybodaeth a sylfaen dystiolaeth i'r darllenydd ar gyfer ail-lunio'r gweithlu lleol i fodloni anghenion gofal yn y boblogaeth leol drwy bwysleisio sgiliau cyn rolau.

A fydd fy rôl/model yn addas?

Os ydych chi'n gweithio mewn gofal sylfaenol a/neu gymunedol ac:

  • yn gweithio i frig eich trwydded i fodloni anghenion iechyd a lles lleol yn well, neu’n
  • sicrhau gofal mewn ffordd newydd neu arloesol sydd o fudd i'r boblogaeth leol, neu’n
  • rhan o fodel newydd neu arloesol sydd wedi arwain at ddeilliannau da,

yna, ydyn, rydyn ni’n eich gwahodd i gyflwyno astudiaeth achos i'w chynnwys ar y wefan.

Beth yw’r manteision i fi?

Gallwch godi ymwybyddiaeth ymhlith chyfoedion a chomisiynwyr gwasanaethau ynghylch sut y gellir llunio'r gweithlu yn well neu ei optimeiddio i fodloni gofynion lleol a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r hyn sydd gennym eisoes sy'n gweithio'n dda.

Fel llwyfan Unwaith i Gymru ar gyfer rhannu modelau arloesol ac unigryw o ddarpariaeth gofal sylfaenol a chymunedol, mae'n arbed amser, arian ac ymdrech sydd ynghlwm wrth hyrwyddo lleol; gan alluogi defnyddio astudiaethau achos, trwy hypergysylltu, i gefnogi gwaith alinio ac osgoi dyblygu. 

Beth fydd angen i fi ei wneud?

Gofynnir i chi gyflwyno cyfrif fideo ac ysgrifenedig yn seiliedig ar ychydig o gwestiynau am y model rôl/gwasanaeth rydych chi'n ei ddefnyddio a chyflenwi deunyddiau ategol fel disgrifiadau swydd a gwerthusiadau gwasanaeth. Efallai y caiff ambell lun o’r fideo eu defnyddio ar y wefan. Gweler rhestr o gwestiynau canllaw i'w hystyried.

Diddordeb

Llenwch y ffurflen gais astudiaeth achos newydd isod a chliciwch 'cyflwyno'.

 

Templed Cyflwyno Astudiaeth Achos

Cwblhewch y templed isod a chynnwys testun dwyieithog, lluniau, ffeiliau fideo mewn fformat y gellir ei olygu i’w lanlwytho i'r wefan. Mae'r holl gyflwyniadau’n cael eu hadolygu, felly gwnewch yn siŵr bod gan y cyswllt a nodir isod awdurdod llawn i wneud unrhyw newidiadau neu benderfyniadau sy'n ofynnol cyn cael cymeradwyaeth derfynol i lanlwytho.


Contact form

Manylion Cyswllt:

Manylion Cynnwys:



Pa un o'r themâu 'Ein Strategaeth y Gweithlu' y mae eich gwaith yn uniaethu ag ef? (ticiwch fel y bo'n briodol)



Rhowch y cydrannau hanfodol yn y tabl isod i gwblhau eich cyflwyniad:

CydranSaesnegCymraeg
Teitl yr Astudiaeth Achos
Enw(au)’r cyfranogw(y)r a gyfwelwyd
Montage Bwrdd Gwaith
Darparwch ffotograff o fwrdd gwaith sy'n cynnwys ychydig o eitemau sy'n gyfystyr â'r model / rolau yn yr astudiaeth achos
Ffilm cyfweliad olaf
Dim mwy na 15 munud yn ddelfrydol. Mae isdeitlau Cymraeg yn dderbyniol os nad yw'r rhai sy'n cael eu cyfweld yn ddwyieithog.
Dyfyniad / Sylw bachog sy’n crynhoi'r gwaith
Yn ddelfrydol o'r cyfweliad
Trawsgrifiad o’r cyfweliad / cofnod ysgrifenedig
Nid oes angen i hwn fod air am air
Crynodeb byr o'r model / rôl
1 neu 2 baragraff i grynhoi yn unig
Llun o gyfranogw(y)r yr astudiaeth achos
Gall hwn fod yn lun llonydd o'r cyfweliad
3 i 4 dogfen neu ddolenni i adnoddau sy’n cefnogi'r astudiaeth achos
e.e. disgrifiadau swydd / manylebau’r model, adroddiadau gwerthuso, codau ymddygiad ac ati.
Sicrhewch fod y rhain yn bodloni cyfeiriad cenedlaethol Cymru ar gyfer y proffesiwn / rôl / model hwn.