Beth yw Ymarferydd Gofal Brys (Fferyllydd)
Yn asesu cleifion wyneb yn wyneb neu dros y ffôn ac yn cymryd hanes meddygol a manylion y symptomau gan y person er mwyn gwneud diagnosis, ac yna cynghori ar y driniaeth neu reolaeth fel y bo'n briodol. Gallai hyn olygu rhagnodi meddyginiaeth neu ddim ond sicrwydd a chyngor cyffredinol. Gall deiliad y swydd wneud atgyfeiriadau i ofal eilaidd ar sail frys neu heb fod yn frys os ydynt yn meddwl bod angen ymchwilio ymhellach.