
Beth yw Model Iechyd Meddwl a Lles Cwmtawe
Mae'r dull 'system cyfan' hwn, a ddatblygwyd ar draws ffiniau sefydliadol a sectorau, yn cynnig cymorth hollgynhwysol i'r cleifion sy'n profi problemau iechyd meddwl a lles. Trwy weithio gyda Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA), Canolfan Camddefnyddio Domestig, Bwrdd Iechyd, Clinicianiaid, a chynrychiolwyr Clwstwr, mae'r ddarpariaeth hon yn cyfeirio cleifion at y person cywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir am gymorth priodol mewn iechyd meddwl a lles. Mae hyn wedi arwain at ofynion sy'n llai na 66.5% ar gyfartaledd ar y meddygon teulu ac mae meddygon teulu yn teimlo'n fwy hyderus fod cymorth priodol yn cael ei ddarparu i'w cleifion.