Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Beth yw e?
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn cydweithio gyda’r Rhaglen Strategol Gofal Sylfaenol (RhSGS), wedi cydweithio i greu’r wefan hon fel adnodd i hyrwyddo arferion da a ffyrdd arloesol o weithio mewn gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol yng Nghymru.
Mae pob astudiaeth achos
- yn defnyddio fideos i arddangos setiau sgiliau a ffyrdd anhraddodiadol o weithio, gan ganolbwyntio ar 'brofiad byw' y rhai sy'n cymryd rhan.
- Yn dangos enghreifftiau o waith aml-broffesiynol integredig ac effeithlonrwydd a gwelliannau i ddarparu gwasanaethau, wedi’u cyflawni drwy nodi ac ymateb i anghenion y boblogaeth leol.
- Yn rhoi gwybodaeth a sylfaen dystiolaeth i'r darllenydd ar gyfer ail-lunio'r gweithlu lleol i fodloni anghenion gofal yn y boblogaeth leol drwy bwysleisio sgiliau cyn rolau.
A fydd fy rôl/model yn addas?
Os ydych chi'n gweithio mewn gofal sylfaenol a/neu gymunedol ac:
- yn gweithio i frig eich trwydded i fodloni anghenion iechyd a lles lleol yn well, neu’n
- sicrhau gofal mewn ffordd newydd neu arloesol sydd o fudd i'r boblogaeth leol, neu’n
- rhan o fodel newydd neu arloesol sydd wedi arwain at ddeilliannau da,
yna, ydyn, rydyn ni’n eich gwahodd i gyflwyno astudiaeth achos i'w chynnwys ar y wefan.
Beth yw’r manteision i fi?
Gallwch godi ymwybyddiaeth ymhlith chyfoedion a chomisiynwyr gwasanaethau ynghylch sut y gellir llunio'r gweithlu yn well neu ei optimeiddio i fodloni gofynion lleol a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r hyn sydd gennym eisoes sy'n gweithio'n dda.
Fel llwyfan Unwaith i Gymru ar gyfer rhannu modelau arloesol ac unigryw o ddarpariaeth gofal sylfaenol a chymunedol, mae'n arbed amser, arian ac ymdrech sydd ynghlwm wrth hyrwyddo lleol; gan alluogi defnyddio astudiaethau achos, trwy hypergysylltu, i gefnogi gwaith alinio ac osgoi dyblygu.
Beth fydd angen i fi ei wneud?
Gofynnir i chi gyflwyno cyfrif fideo ac ysgrifenedig yn seiliedig ar ychydig o gwestiynau am y model rôl/gwasanaeth rydych chi'n ei ddefnyddio a chyflenwi deunyddiau ategol fel disgrifiadau swydd a gwerthusiadau gwasanaeth. Efallai y caiff ambell lun o’r fideo eu defnyddio ar y wefan. Gweler rhestr o gwestiynau canllaw i'w hystyried.
Diddordeb
Llenwch y ffurflen gais astudiaeth achos newydd isod a chliciwch 'cyflwyno'.
Templed Cyflwyno Astudiaeth Achos
Cwblhewch y templed isod a chynnwys testun dwyieithog, lluniau, ffeiliau fideo mewn fformat y gellir ei olygu i’w lanlwytho i'r wefan. Mae'r holl gyflwyniadau’n cael eu hadolygu, felly gwnewch yn siŵr bod gan y cyswllt a nodir isod awdurdod llawn i wneud unrhyw newidiadau neu benderfyniadau sy'n ofynnol cyn cael cymeradwyaeth derfynol i lanlwytho.